Cross Party Group Clean Air Act for Wales

 

Grŵp Trawsbleidiol Deddf Aer Glân i Gymru

 

11:00 – 12:00

 

06.10.2021

 

Cyfarfod rhithwir gan ddefnyddio Teams

 

Virtual meeting using Teams

 

Yn bresennol

 

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

 

Delyth Jewell AS (Cyd Is-gadeirydd)

 

Janet Finch-Saunders AC (Cyd Is-gadeirydd)

 

Heledd Fychan AS

 

Vikki Howells AS

 

Altaf Hussain AS

 

Llŷr Gruffydd AS

 

Rhun ap Iorwerth AS

 

Sarah Murphy AS

 

Rhys ab Owen AS

 

David Rees AS

 

Lee Waters AS

 

Hefyd yn bresennol

 

Brody Anderson

 

Joseph Carter

 

Haf Elgar

 

Annie Fabian

 

Ollie John

 

Neil Lewis

 

Charlotte Morgan

 

Gwenda Owen

 

Gemma Roberts

 

Calum Shaw

 

Olwen Spillar

 

Stephanie Woodland

 

 

 

Ymddiheuriadau:

 

Sian Gwenllian AS

 

Cefin Campbell AS

 

Luke Fletcher AS

 

Alun Davies AS

 

Carolyn Thomas AS


Jack Sargeant AS

 

Samuel Kurtz AS

 

Russell George AS

 

Paul Davies AS

 

Natasha Asghar AS

 

Peredur Owen AS

 

Sioned Williams AS

 

Camau i’w cymryd:

 

-          Pennu dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

 

-          Dosbarthu cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

Agenda

 

1.       Chair, Huw Irranca-Davies MS: Welcome, introductions and apologies.

 

Cadeirydd, Huw Irranca-Davies AS: Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau.

 

2.       Chair, Huw Irranca-Davies MS: Minutes of the last meeting

 

Cadeirydd, Huw Irranca-Davies AS: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

3.       Joseph Carter, Healthy Air Cymru. Matters arising Joseph Carter, Healthy Air Cymru. Materion sy'n codi, Joseph Carter, Awyr Iach Cymru.

 

4.       Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change – Question and answer session.

                Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Sesiwn holi ac ateb

 

5.       Yr Athro Stephen Holgate: World Health Organisation air pollution targets.

 

Yr Athro Stephen Holgate: Targedau llygredd aer Sefydliad Iechyd y Byd

 

6.       Any other business Unrhyw fusnes arall

 

 

Chair, Huw Irranca-Davies MS: Welcome, introductions and apologies.

 

Cadeirydd, Huw Irranca-Davies AS: Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau.

 

 

 

Newidiadau i'r agenda - eitem 3, bu'n rhaid i'r Athro Holgate dynnu’n ôl, a byddai Joseph Carter yn dirprwyo ar ei ran

 

 

 

Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change – Question and answer session.

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Sesiwn holi ac ateb

 

Lee Waters AS:

 

-      Roedd yn dymuno gweithio'n agos gyda'r grŵp trawsbleidiol ac i'r grŵp ganolbwyntio ar fod yn grŵp trawsbleidiol ar gyfer aer glân yn hytrach na chanolbwyntio ar y ddeddf yn unig

 

-          Mae’n annhebygol y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno am ychydig o flynyddoedd felly dylai’r grŵp ganolbwyntio hefyd ar yr hyn y gellir ei wneud yn y dyfodol agos.

 

-          Y Grŵp i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud heb ddeddfwriaeth a sut fath o ddeddfwriaeth y dylid ei chyflwyno

 

-          Mae consensws trawsbleidiol ynghylch y ddeddf ond nid ynghylch natur y ddeddf


 

-          Beth sy’n gyffredin rhwng y pleidiau a beth yw'r gwahaniaeth rhyngddynt?

Huw Irranca-Davies AS: Agor y drafodaeth

 

-          Bydd y Grŵp yn dal i annog y Llywodraeth i gyflwyno’r ddeddf aer glân cyn gynted â phosibl

 

Delyth Jewell AS:

 

-          Beth hoffai’r llywodraeth i’r Grŵp hwn ei wneud i sicrhau bod y drafodaeth yn parhau a rhoi pwysau ar yr amser iawn?

 

Lee Waters AS:

 

-          Dylai’r Grŵp geisio sefydlu nodweddion cyffredin ar gyfer deddfwriaeth gan nad oes barn unedig ar yr hyn y dylai’r ddeddf ei gynnwys

 

Neil Lewis:

 

-          Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi sicrhau cyllid ar gyfer clybiau ceir trydan ar hyd a lled Cymru wledig, gan gynnwys 16 o gerbydau trydan newydd

 

-          Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r hyn y mae Ynni Cymunedol Cymru yn ei wneud? Mae'n anodd cael yswiriant ar gyfer y cerbydau

 

Lee Waters AS:

 

-          O dan yr argraff bod Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnal trafodaethau yn y cyswllt hwn

 

-          Yn gefnogol iawn i’r syniad o sefydlu Clybiau Ceir. Yn ddelfrydol byddai clybiau ceir trydan ym mhob cymdogaeth, yn cael eu rhedeg ar ynni sy'n eiddo i'r gymuned

 

Neil Lewis:

 

-        Dros y 3 blynedd nesaf mae angen dangos bod clybiau ceir trydan yn gweithio yng Nghymru

Heledd Fychan AS:

 

-          Soniwyd am gynllunio yn y cyfarfod diwethaf, ac mae hwn yn faes o ddiddordeb o hyd gan fod cynigion a wrthodwyd ar sail Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynd yn ôl i Lywodraeth Cymru.

 

David Rees AS

 

-          Mae cynllunio yn bwysig gan fod allyriadau diwydiannol hefyd yn ffactor a ystyrir mewn cynigion

 

-          Rhaid ystyried effaith y cais cynllunio ar ansawdd aer mewn ardal

 

-          Dylai ceisiadau cynllunio edrych ar yr economi gan sicrhau nad yw ansawdd yr aer yn gwaethygu

 

Lee Waters AS:

 

-          Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pwerau i fynd i'r afael ag aer glân ee terfyn cyflymder o 20mya. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod lleisiau cymunedol o blaid hyn yn cael eu clywed gan fod llawer o wrthwynebiad

 

-          Mae angen i'r grŵp trawsbleidiol fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a rhoi sylw i’r manylion penodol yn ogystal â'r egwyddor o sicrhau aer glân

 

-          Mae cydbwysedd yn bwynt da, ac mae angen i ddiwydiannau newid fel rhan o her sero net. Mae angen gweithio gyda diwydiannau i sicrhau newid

 

Huw Irranca-Davies AS:

-          Angen gofyn cwestiynau a chynnal sgyrsiau Janet Finch-Saunders AS

 

-          Byddwn yn dibynnu ar awdurdodau lleol i ymgymryd â mesurau penodol. Pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt i’w gweithredu?

 

Lee Waters AS:

 

-          Nid oes gan y llywodraeth gronfeydd o arian i wneud popeth yr ydym am ei wneud

 

-          Mae angen adnoddau i roi’r agenda ar waith, ac mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn cael llawer o adnoddau

 

-          Mae anhawster gydag adnoddau lleol i wneud hyn yn dda. Byddai’n fodlon rhoi cyllid i awdurdodau lleol ond hoffai ei wario ar lefel ranbarthol i osgoi dyblygu.

 

Huw Irranca-Davies AS:

 

-          A allwn ni ddefnyddio’r Grŵp hwn i ddod o hyd i feysydd cyffredin ar draws y pleidiau i roi pwysau ar y Llywodraeth wrth aros am ddeddf aer glân?

 

Joseph Carter:

 

-          Hoffai’r trydydd sector ddod o hyd i gonsensws, felly hoffai Awyr Iach Cymru hwyluso hynny o fewn y Grŵp hwn

 

Lee Waters AS Diolch

 

 

 

Chair, Huw Irranca-Davies MS: Minutes of the last meeting

 

Cadeirydd, Huw Irranca-Davies AS: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cymeradwywyd y cofnodion.

 

 

 

Joseph Carter, Healthy Air Cymru. Matters arising Joseph Carter, Healthy Air Cymru. Materion sy'n codi

 

 

 

·         Cyflwyno papurau i'r swyddfa gyflwyno - wedi'i gwblhau

 

·         E-bostio’r Aelodau i gytuno ar ddiben y Grŵp - wedi’i gwblhau

 

·         Anfon cofnodion y cyfarfod diwethaf cyn y cyfarfod nesaf - wedi’i gwblhau

 

·         Trefnu amser a dyddiad y cyfarfod nesaf a thrafod pynciau a gododd yn yr eitemau ar yr agenda - wedi'i gwblhau

 

 

 

Joseph Carter: World Health Organisation air pollution targets.

 

Joseph Carter: Targedau llygredd aer Sefydliad Iechyd y Byd







 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sut y dylai Cymru ymateb i ganllawiau ansawdd aer newydd Sefydliad Iechyd y Byd?

 

-          Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn treulio cryn dipyn o amser yn edrych ar ansawdd aer oherwydd yr effaith ar iechyd

 

-          Rhaid cofio beth yw prif ffynonellau llygredd aer

 

 

-          Canllawiau newydd Sefydliad Iechyd y Byd ar lygredd aer, gan ganolbwyntio heddiw ar ddeunydd gronynnol a nitrogen deuocsid

 

 

-          Gall cynnydd sydyn mewn llygredd aer arwain at gynnydd yn nifer y cleifion yn yr ysbytai, yn enwedig pobl agored i niwed

 

 

-          Y bobl dlotaf sy’n dioddef fwyaf oherwydd llygredd aer

 

 

-          Mae Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi ceisio modelu cynnydd sydyn mewn llygredd aer, a chomisiynwyd Cambridge Environmental Research Consultancy i wneud hynny

 

 

-          Mae pennu terfynau deunydd gronynnol yn anoddach na phennu terfynau NO2

 

 

-          Mae llawer o ffynonellau llygredd i fynd i’r afael â nhw heblaw am drafnidiaeth ar y ffyrdd

 

 

-          Sut allwn ni fynd i’r afael â llygredd aer? Yn fras, yr un pethau ag a wnawn i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd (gweler y diagram). Mae’r mesurau i leihau llygredd aer a’r newid yn yr hinsawdd i gyd o fudd i iechyd pobl yn y pen draw

 

 

-          Unrhyw gwestiynau?

 

 

Huw Irranca-Davies AS: roedd deunydd gronynnol yn effeithio ar 100% o ysgolion a meddygfeydd (dros y terfyn). A ddefnyddiwyd sampl ynteu a gafodd pob lleoliad ei fesur?

 

Joseph Carter:

 

-          Mae hyn ar gyfer pob lleoliad, rydym wedi modelu ffigurau ar gyfer pob ysgol a meddygfa drwy Gymru

 

-          Nid dim ond mewn ardaloedd trefol y mae llygredd yn broblem, mae llygredd cefndir yn broblem allweddol

 

 

-          Pe bai’r canllawiau’n cael eu dilyn a’u cyflawni mewn rhannau o Ewrop a Lloegr, byddai hynny’n ei gwneud hi’n llawer haws cadw at ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd

 

 

-          Mae’r ffigurau’n llwm, ac yn ein hatgoffa y bydd yn anodd ond ni ddylai hynny fod yn rheswm i beidio â gwneud hyn.


 

-          Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau hirdymor llwyddiannus yn y gorffennol felly gallwn gael targedau hirdymor, ni ddylent godi ofn arnom. Rhaid i ni ddatblygu system sy’n golygu na fydd Llywodraeth Cymru yn wynebu achos cyfreithiol os na fydd yn llwyddo i’w cyrraedd yn syth

 

-          Dylai llywodraethau drwy’r byd i gyd fod â thargedau dros dro.

 

 

Rhiannon Hardiman

 

-          A yw targed dyddiol yn cyfeirio at y llygredd cyfartalog ar ddiwrnod penodol ynteu’r llygredd uchaf yn ystod y diwrnod hwnnw? Olwen Spillar:

 

-          Ni allaf ateb y cwestiwn ar hyn o bryd ond byddaf yn cysylltu â hi’n uniongyrchol i roi’r ateb

 

 

Huw Irranca-Davies AS:

 

-          Dylem fod yn obeithiol gan ein bod wedi gwneud cynnydd yn ôl y targedau eraill.

 

-          Mae goblygiadau gwirioneddol yn y data ynghylch y defnydd o offer a llosgi domestig

 

 

Joseph Carter:

 

-          Mae angen deddfu ym maes offer yn y cartref er mwyn ailwampio’r system bresennol a chymryd camau llym yn erbyn llosgi domestig

 

-          Mae angen ystyried y rhai sy’n ymgymryd â llosgi domestig am resymau esthetig

 

 

-          Maes ymchwil i’r mathau o losgwyr a ddefnyddir a sut y defnyddir coed

 

 

Dosbarthu’r cyflwyniad

 

Joseph Carter:

 

-          Mae’n ddefnyddiol cael yr her o ddod o hyd i gonsensws.

 

-          Bydd Awyr Iach Cymru yn cysylltu ag aelodau’r fforwm i drefnu cyfarfod lle gallwn gynnig syniadau cydsyniol

 

 

Huw Irranca-Davies AS:

 

-          Diolch i chi i gyd am ddod heddiw. Byddwn yn cysylltu i roi dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol ac i gytuno ar y ffordd o greu consensws ynghylch y Bil Aer Glân.

 

Daeth y cyfarfod i ben


Y wbodaeth ddiweddaraf am raglen NO2 – terfynau cyflymder 50mya/Hysbysiadau Cynghori

 

Yn anffodus, cafwyd rhywfaint o ddryswch ynghylch ystadegyn a ryddhawyd yn yr hysbysiad i’r wasg a’r fideo sy’n dweud ein bod wedi gostwng lefelau NO2 hyd at 47%. Mae’r ffigur hwn yn adlewyrchu’r gostyngiad mwyaf a welwyd ar ffordd yr A470 Pontypridd wrth gymharu’r crynodiadau cyfartalog blynyddol yn ystod 2018 a 2020. Mae’n amlwg bod y pandemig wedi effeithio ar y ffigur hwn, ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau yn y tabl yn dangos bod y camau yr ydym yn eu cymryd i wella ansawdd aer yn y lleoliadau hyn yn gweithio, ac yn cadarnhau ein penderfyniadau polisi, a’n buddsoddiadau, i annog pobl i roi’r gorau i ddefnyddio’u ceir a defnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio fel cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 

 

 

Crynodiadau NO2 cymedrig blynyddol (µg/m3)

 

 

 

Cymedrig blynyddol

Cymedrig blynyddol

Y gwahaniaeth

 

2018

2019

canrannol

 

 

 

2018- 2019

 

 

 

 

A483

 

 

 

Wrecsam -

 

 

 

Gogledd Cymru

50.2

40.9

-18.53%

 

 

 

 

A494 Glannau Dyfrdwy -

 

 

 

Gogledd Cymru

42.2

36.6

-13.27%

 

 

 

 

A470

 

 

 

Pontypridd -

 

 

 

De Cymru

56.8

48.1

-15.32%

 

 

 

 

M4 Casnewydd -

 

 

 

De Cymru

63.5

59.2

-6.77%

 

 

 

 

M4 Port Talbot -

 

 

 

De Cymru

48.4

43.0

-11.16%

 

 

 

 

 

Sylwch:

 

Data wedi'i gofnodi trwy diwbiau tryledu a'u haddasu gan ddefnyddio ffactorau addasu tuedd cenedlaethol.

 

Mae terfynau cyflymder o 50mya wedi bod ar waith ers mis Mehefin 2018.

 

Bydd y gostyngiad yn llif y traffig yn ystod y pandemig wedi effeithio ar grynodiadau ynn ystod 2020.